[one_half padding=”0 20px 0 0px”]

Datganiad Mynediad i’r Anabl

 

Gellir mynd i Amgueddfa’r Rheilffyrdd Bach Cul o’r platfform drwy ddrws 800mm o led sy’n agor allan gyda ramp 4.4 metr o hyd i lawr i lefel is y llawr mewnol. Gellir cyrraedd yr amgueddfa hefyd o Gaffi Trwyddedig King’s ar y llawr daear yn yr orsaf drwy lobi’r lifft (dau ddrws 750mm o led).

Mae pob eil o fewn yr amgueddfa o leiaf 800mm o led ac eithrio’r mynediad ramp at lawr caban locomotif ‘William Finlay’. Mae gan hwn ramp 600mm o led, sy’n culhau i 500mm a mynedfa’r caban sy’n 400mm o led. Fodd bynnag mae teledu cylch cyfyng y tu ôl i’r locomotif yn darlledu delweddau byw o lawr caban y locomotif i ymwelwyr eu mwynhau.

Mae’r rhan fwyaf o’r geiriau ar yr arddangosiad deongliadol mewn print bras.

O’r llawr daear, ceir rhes llydan o 23 o risiau gydag ymylon melyn sy’n arwain at y llawr cyntaf sy’n cynnwys arddangosiadau pellach.

O’r llawr daear dylai defnyddwyr cadeiriau olwyn fynd ar y fynedfa ramp at y lifft (un drws 700mm o led i fynd at lobi’r lifft, ac yna ail ddrws sy’n fynedfa i’r caffi). Mae gan lifft y teithwyr fynedfa 800mm o led a dimensiynau mewnol 900mm o led x 1200mm o ddyfnder. Nodwch na fydd lle i rai sgwteri symudedd mawr o bosibl yn y lifft. Mae’r botymau’n addas i ddefnyddwyr Braille ac mae’n lifft siarad. O allanfa’r llawr cyntaf o’r lifft, mae drws 750mm o led yn arwain at ardal uchaf yr Amgueddfa.

Mae gan ardal uchaf yr Amgueddfa hefyd allanfa gyda mynediad gwastad at y balconi sydd â golygfa o ardal yr orsaf. Gellir cyrraedd y fan hon drwy ddrysau dwbl 500mm yr un o led. Gofynnwch i swyddog yr amgueddfa os oes angen unrhyw gymorth i agor drysau. Gellir dod o hyd i doiledau i ddefnyddwyr yr Amgueddfa ar y llawr cyntaf gerllaw’r lifft, gan gynnwys toiled hygyrch. Gellir mynd at hwn drwy ddrws sbring 800mm o led, ac mae’n cynnwys rheiliau cydio, cortyn argyfwng, fflysh cledr llaw, basn lefel isel, tap lifer a sychwr dwylo awtomatig. Hefyd ar y llawr cyntaf mae Ystafell Addysg John Slater a gaiff ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd/arddangosfeydd ac ati, sydd â dolen sain.

I gael rhagor o wybodaeth am fynediad anabl i’n gorsafoedd, edrychwch ar wefan Reilffordd Tal-y-llyn.

Diweddarwyd Mehefin 2017.

[/one_half]

[one_half_last padding=”0 0px 0 20px”]

Disability Access Statement

 

The Narrow Gauge Railway Museum is accessed from the platform through an 800mm wide door which opens outwards with a 4.4m long ramp down to internal floor level. The museum may also be accessed from King’s Licensed Café on the ground floor of the station via the lift lobby (two 750mm wide doors).

All gangways within the museum have a minimum width of 800mm with the exception of the ramped access to the footplate of the ‘William Finlay’ locomotive. This has a 600mm wide ramp, narrowing to 500mm and the entrance to the cab which is 400mm wide. However, a CCTV display behind the locomotive relays live images of the locomotive footplate for all visitors to enjoy.

Most interpretive display wording is in large print.

From the ground floor, a wide flight of 23 steps with yellow highlighted nosings leads to the first floor which contains further displays.

From the ground floor, wheelchair users should take the ramped access to the lift (one 750mm wide door to go through to the lift lobby, from which a second door gives access to the café). The passenger lift has an entrance 800mm wide and internal dimensions of 900mm wide x 1200mm deep. Note that some larger mobility scooters may not fit into the lift. The buttons are equipped for Braille users and it is a speaking lift. From the first floor exit to the lift, a 750mm wide door leads into the upper Museum area.

The upper Museum area also has an exit with level access to the balcony giving a view of the station area. This is accessed through double doors each 500mm wide. Please ask the museum attendant if you require any assistance opening the doors. Toilets for visitors to the Museum may also be found on the first floor near the lift, including an accessible toilet. This is accessed through a sprung door 800mm wide, and is fully equipped with grab rails, emergency pull cord, palm operated flush, low level basin, lever operated tap and automatic hand dryer. Also located on the first floor is the John Slater Education Room which is used for meetings/exhibitions etc, and which is fitted with an induction loop.

For further details of disability access to our stations, please see the Talyllyn Railway website.

Updated June 2017.

[/one_half_last]