Rheilffyrdd Cul Milwrol | Military Narrow Gauge

O’r 1850au ymlaen roedd cynlluniau ar gyfer symud byddin ymlaen yn gyflym yn cynnwys defnyddio rheilffyrdd. Yn benodol, arbrofodd Ffrainc, yr Almaen a Rwsia â rheilffyrdd cul yr oedd modd eu hadeiladu’n gyflym.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd ‘rheilffyrdd ysgafn’ yn hanfodol i gludo dynion a chyflenwadau i’r ffosydd. Ar y rheng flaen roedd peiriannau petrol neu baraffin yn cael eu defnyddio yn hytrach na stêm gan y byddai’r nwyon llosg yn llai gweladwy.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda datblygiadau mewn awyrennau a cherbydau ffordd, roedd y math hwn o lein yn llai defnyddiol. Fodd bynnag, roedd y lluoedd arfog yn parhau i ddefnyddio’r rheilffyrdd bach cul ar gyfer adeiladu a symud arfau rhyfel o gwmpas eu storfeydd. Defnyddiwyd rheilffordd 1tr 6mod(457mm) o led yn Arfdy Woolwich o 1873 hyd at 1973 ac roedd yr RAF yn defnyddio rheilffyrdd bach cul hyd at y 1980au.

From the 1850s military planning for an army’s rapid advance included using railways. France, Germany and Russia, in particular, experimented with narrow gauge lines which could be built quickly.

In the First World War ‘light railways’ were vital in transporting men and supplies to the trenches. At the front line petrol or paraffin engines were preferred over steam as the exhaust was less visible.

After the First World War developments in aircraft and road vehicles made this kind of line less useful. However armed forces continued to use narrow gauge lines for construction and moving munitions around depots. The 1ft 6in (457mm) gauge railway at Woolwich Arsenal was in use from 1873 to 1973 and the RAF used narrow gauge lines into the 1980s.